Tuesday, 14th July 2026 Cardiff 22° · Clear sky
NationCymru A news service by the people of Wales, for the people of Wales.

Opinion

Vergangenheitsbewältigung a phechodau'r gorffennol

By NationCymru
Llun gan Orator (CC BY-SA 4.0)

 

Simon Chandler

Fe gyflwynwyd rhaglen addysgol newydd yn yr Almaen ar ôl yr Ail Ryfel Byd: sef, "Vergangenheitsbewältigung" sydd yn rhan o broses seicolegol ac yn golygu "dod i delerau â'r gorffennol" yn y Gymraeg.

Fel rhan o'r rhaglen hon, cafodd (a chaiff o hyd) plant ysgol yn yr Almaen eu haddysgu am yr Holocost. Yn ogystal, roedd (ac mae o hyd) yn orfodol iddyn nhw fynd ar deithiau ysgol i wersylloedd crynhoi i weld â'u llygaid eu hunain tystiolaeth o'r troseddau yn erbyn dynoliaeth a gyflawnwyd gan eu hynafiaid, er mwyn sicrhau na fydd hanes yn ailadrodd ei hun.

Yn anffodus, mae hanes wedi ailadrodd ei hun sawl gwaith yn y cyfamser (yn Serbia a Rwanda, er enghraifft), ond nid yn yr Almaen, sydd wedi dod yn wlad ofalgar a thrugarog, fel y dangosir gan ei thriniaeth o ffoaduriaid o Syria: yn rhannol oherwydd Vergangenheitsbewältigung, yn fy marn i.

Wrth gwrs, nid yr Almaen yw’r unig wlad sydd wedi cyflawni troseddau yn erbyn dynoliaeth, fel y mae Cymru'n boenus o ymwybodol ohono.

Y gwir trist amdani yw ni wnaeth unrhyw wareiddiad fyth newid ei ymddygiad yn radical (yn hytrach na chymryd camau'n gymharol llai sylfaenol fel ailgylchu neu osod targedau newid hinsawdd) oherwydd pryderon rhagweithiol ac allgarol er lles cenedlaethau'r dyfodol.

Naddo, mae hynny'n digwydd ond oherwydd cywilydd annioddefol yn wyneb pechodau'r hynafiaid: cywilydd sydd gen i’n ddirprwyol fel Sais.

Yn achos yr Almaen, achoswyd hynny gan ddatguddiad erchyllterau'r Holocost ynghyd â'r ffaith i'r Almaen golli'r Ail Ryfel Byd, fel ydym oll yn gwybod.

Mewn cyferbyniad, ni orfodwyd Prydain i ddod i delerau â'r erchyllterau masnachu caethweision Affricanaidd neu greulondeb trefedigaethol yn gyffredinol i'r un raddau.

Iawndal

Bydd unrhyw un sydd wedi ymweld â Berlin yn y blynyddoedd diwethaf yn ymwybodol iawn o Gofeb y Holocost siŵr o fod.

Mae hi'n cwmpasu arwynebedd o bron i bump erw o dir drws nesaf i un o’r gwestai drutaf y ddinas (ble mae'r Frenhines yn aros yn ystod bob ymweliad, hyd y gwn).

Mae'r gofeb yn cynnwys 2,711 o lechi concrit enfawr, ac mae pob un ohonyn nhw'n symboleiddio nifer fawr o Iddewon wedi'u llofruddio.

A allwch chi ddychmygu cofeb ddirfawr i'r dioddefwyr trefedigaethiad Prydeinig ynghanol Llundain?

Allaf i ddim chwaith. Mae hynny'n broblem oherwydd bod heddiw nid yn unig yn blentyn ddoe ond hefyd yn dad yfory.

Mae rhan Cymru yn hyn yn gymhleth. Dyma wlad a chafodd ei gwladychu ond a oedd hefyd wedi chwarae rhan weithredol yn y gwladychu ar ôl cael ei llyncu gan yr Ymerodraeth.

Felly, nid yn unig yn Lloegr y mae angen Vergangenheitsbewältigung.

Ond a fyddwn ni’n gweld Lloegr yn cydnabod bod Cymru'n drefedigaeth hefyd? Trefedigaeth a anrheithiwyd ei hadnoddau, a erydwyd ei hiaith a’i diwylliant, a’i phobl wedi’i gormesu ac anwybyddu; trefedigaeth sydd yn haeddu rhyw fath o iawndal sylweddol?

Sut y bydd Lloegr yn gallu gweld yr angen i newid ei bolisïau tuag at Gymru nes ei bod yn cydnabod camweddau’r gorffennol?

Mae hwnnw'n gwestiwn rhethregol, yn anffodus, oherwydd na fydd Lloegr fyth yn gosod Vergangenheitsbewältigung ar ei hun (neu gydnabod bod angen iddo hyd yn oed).

Yn lle hynny felly, bydd rhaid i'r Cymry ddysgu am (neu gofio) pob agwedd ar hanes ein gwlad ni – y da a’r drwg - ac wedyn cymryd ein tynged ni i'n dwylo ein hunain: mae hi'n hen bryd.


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

24 comments

Dafydd ap Gwilym

Very interesting article and one that would be better in English so that it may reach a wider audience. Even as a re-learner I couldn't get the drift at all without translating through Google. I just hope others like me or those that only speak English persevere as I did to read somethine very appropriate! Would be nice in future if the author includes Engllish or Welsh as the case may be! Thank you for a very interesting article.

Reply
Simon Chandler

Thank you for making the effort to read the article in Welsh and for commenting on it. I take your point about reaching a wider audience by writing in English, but my view is that it is also very important to normalise the use of Welsh as much as possible.

Reply
NationCymru

The danger if we publish everything in Welsh in English as well is that there's no incentive to learn Welsh. :)

Reply
Capitalist and Welshnash

Dafydd ap Gwilym, I think the occasional article here in Cymraeg is a good thing. S4C's biggest fault, as it were, is that all Cymraeg was taken off of English-medium channels and non-Welsh speakers were no longer exposed to Cymraeg as a normalised, televised medium, interwoven within their normal sphere of entertainment. That is wrong. About this article: Dwi'n meddwl bod dod â phlant mor ifainc i wersylloedd crynhoi yn niweidiol a chreulon yn seicolegol. Ddylai plant ddim yn gorfod gweld y fath o bethau; mae'n gallu creu creithiau seicolegol ar unigolion mor ifainc, sy'n anfoesol yn fy marn i. Dwi'n meddwl dylai'r Almaen symud yr oedran maen nhw'n gorfodi i bobl weld y gwersylloedd hynny. Am Gymru: Mae diffyg dybryd o wybodaeth pobl gyffredin am hanes Cymru. Ac mae angen newid hyn yn llwyr. Eto, bydd angen chwyldro addysg am hynny.

Reply
glasiad

An "executive summary" in English should suffice. Beth bynnag, Mae “Vergangenheitsbewältigung” yn swnio fel "White Man's Guilt" i fi. Does dim angen 'dod i delerau â’r gorffennol' dros y Gymry. Gad i ni edrych ymlaen at y dyfodol.

Reply
Simon Chandler

Glasiad, mae hi'n ymwneud ag euogrwydd, yn sicr, ond nid â hil. Er fy mod i'n Sais, rydw i o blaid y Cymry'n gant y cant, ond pwy sydd yn gallu ei fforddio peidio â dysgu o wersi'r gorffennol, a phwy sydd yn hollol ddi-fai?

Reply
Desdelguinardo

Os wyt ti'n meddwl bod dim angen i Gymru werthuso a siarad yn blaen am ein rôl yn trefedigaethu ac yn y fasnach gaethweision, mae'n well i ti ddarllen mwy o dy hanes.

Reply
Rhys

Credaf ei fod yn gamarweiniol i fynegi bydd 'Lloegr' byth yn cydnabod troseddau'r ymerodraeth - y gwir fynegiad yw bydd 'Prydain' byth yn cydnabod troseddau'r ymerodraeth. Mae hwn yn wahaniaeth pwysig: tra bod Lloegr (fel yr Almaen) yn genedl naturiol, mae Prydain yn sefydliad rhyngwladol annaturiol. Fel sefydliad annaturiol, mae angen ar Brydain am ffeindio modd o gyfiawnhau bodolaeth ei hun. Ers y dechrau mae'r un cyfiawnhad wedi cael ei defnyddio eisoes: mae Prydain yn haeddu bodoli oherwydd ei fod yn WELL na gwledydd arall. Spiwch ar rethreg undebwyr a gallwch weld beth rwy'n cyfeirio at: mae hanes Prydain gwastad yn pwysleisio'r pethau positif (unrhyw beth amdan yr Ail Ryfel Byd, y gwaharddiad caethwasiaeth, honiadau o roi gwareiddiad i'r trefedigaethau) a bu pethau negyddol yn cael ei anwybyddu neu ddibwyso (fel mae'r erthygl yn disgrifio). Bu ddatblygwyd Prydain ar y sail ei fod yn wlad eithriadol, ei fod ei threfedigaethau yn gwneud dyletswydd i'r byd a'i fod yn uwchben gweddill y byd yn foesol. Y drafferth hefo hwn, wrth gwrs, yw bod nad ydy Prydain rhagor yn wlad eithriadol. Heb yr ymerodraeth nad oes ddim y monopoli ar nwyddau a wnaeth galluogi Prydain i fod yn wlad bwerus, mae nifer o wledydd arall wedi cymryd lle Prydain fel grym milwrol (nad oes un wlad arall yn y byd a gall dod yn agos at rym milwrol yr UDA), a gall unrhyw astudiaeth o'r ymerodraeth dangos ei fod yn hollol anfoesol. Ond os bydd Prydain yn cydnabod y gwir hwn, bydd ei dilysrwydd yn diflannu: os mae Prydain yn ddim gwell nag unrhyw wlad annibynnol benodol, pam na ddylwn ryddhau'r cenedlau sy'n ei greu fel gwledydd annibynnol? Am sicrhau bodolaeth y wladwriaeth mae rhaid sicrhau bodolaeth y chwedl o eithriadaeth, am heb nad oes rheswm am y wladwriaeth bodoli. Dyma pam mae pobl ar y chwith Prydeinig yn yr un mor elyniaethus tuag at ddiwylliant di-Prydeinig a phobl ar y dde. Hyd yn oed ymhlith y rheini sydd yn cydnabod troseddau'r ymerodraeth o fewn Prydain mae yna anfodlonrwydd i gydnabod y trefedigaethau o fewn y wladwriaeth, am ei fod yn beryg i'r undeb. Sylwch fy mod yn ofalus i wahanu rhwng Saesnig a Prydeinig: mae'r Sais yn dioddef o dan Brydain yn yr un modd a rhydwn ni yn dioddef: fel y cynricholwyr 'default' o Brydain, mae disgwyl arnynt i fodoli gyd o'r rhagdybiaethau eithriadol Prydeindod. Mae disgwyl arnyn nhw i gredu ei fod yn eithriadol. Yn yr un modd y mae'n 'cenedlaetholgar' yn Gymru neu'r Alban i eisiau'r gorau am genedl eich hun, mae'n 'anwladgarol' i fod yn Sais sydd ddim eisiau byw mewn "un o wledydd gorau'r byd". Felly, er cytunaf bydd Cymru annibynnol yn gallu dal ymwybyddiaeth aeddfed o'r gorffennol, mae gan Loegr (ac am y mater yr Alban a Gogledd Iwerddon (os nad ydynt yn rhan o Iwerddon unedig)) yr union un potensial i ddeall hanes eu hunain. Ond yr unig fodd gall hwn digwydd yw gyda diddymiad o'r gyfundrefn Brydeinig: tra bod Prydain yn parhau i fodoli mae cymhelliad i osgoi trafodaeth o'r ymerodraeth.

Reply
Simon Chandler

Rhys, roedd eich sylwadau chi'n ddiddorol iawn, a chytunaf â chi mewn sawl ystyr. Wedi dweud hynny, erys gwahaniaeth barn rhyngon ni, oherwydd na dderbyniaf fod yr erthygl yn gamarweiniol o gwbl. Yn fy marn i, mae Lloegr a Phrydain yn gyfystyr mewn rhai ffyrdd sylweddol. Gallaf ddweud wrthoch chi, er enghraifft, bod y ddau derm yn cael eu defnyddio'n ymgyfnewidiol yng nghyfryngau'r Almaen. Tasai Prydain yn gerbyd, byddai Lloegr y gyrrwr. Wedi'r cyfan, roedd yn rhaid i Nicola Sturgeon ofyn i Theresa May am ganiatâd i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yr Alban. Tasai Theresa May'n awyddus i wneud yr un peth ynglŷn â Lloegr, a fyddai angen iddi hi ofyn i unrhyw un am ganiatâd? Os felly, i bwy, tybed?

Reply
Eos Pengwern

I gymharu gyda bron unrhyw wlad arall yn y byd, mae hanes yn Deyrnas Unedig yn weddol lân; er enghraifft, i gymharu gwledydd a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Prydeinig gyda'r gwledydd oedd yn rhan o ymerodraeth unrhyw wlad Ewropeaidd arall, neu heb fod yn rhan o unrhyw ymerodraeth o gwbl, mae'r rhai Prydeinig yn edrych yn eitha da. Gwell yw byw yn Hong Kong, Singapore neu Botswana na Macau, y Philippines neu Ethiopia. Hyd yn oed wrth ystyried caethwasanaeth, bach iawn yw nifer y rhai a gludwyd dros yr Iwerydd gan y Prydeinwyr (trwy y swyddfeydd yn Boston ac Efrog Newydd) i gymharu gyda chymaint a gludwyd i Frasil gan Bortiwgal neu i Iraq gan yr Arabiaid (y rhan fywaf helaeth o'r rhai a fu farw, sy'n esbonio pam mae cyn lleied o'u disgynyddion yn dal i fyw yno erbyn hyn). Wrth ystyried popeth, er gwaethaf fy mod i'n gryf o blaid annibyniaeth i Gymru, rwy'n teimlo mwy o falchder nag o gywilydd am rôl y DU yn y byd. Ta waeth am hynny, mae sôn am bechodau gwlad (yn enwedig pechodau gwlad arall) yn rhy hawdd. Pan oedd Cymru ar ei gorau, o ail chwarter y Ddeunaufed Ganrif i chwarter olaf y Bedwaredd ar Bymtheg - yn arwain y byd yn addysgiadol ac i rannau helaeth yn dechnolegol - roedd pobl yn poeni yn llawer iawn mwy am eu pechodau personol ac sut i gael maddeuant amdanyn nhw trwy waed Crist. Ers i ddiwynyddiaeth yr enwadau colli'w ffordd, a throi o ddiwylliant yr wlad o Gristnogaeth i Sosialaeth, mae Cymru wedi syrthio tu ôl gweddill y DU fwyfwy yn economaidd ac ym mron pob agwedd arall o'u bywyd. Mae hynny yn bendant yn rhywbeth i edifarhau ohono.

Reply
DDOwen

Gellir dadlau bod arteithio un person nes ei bod yn farw yn well (rhywsut) nag arteithio dau berson, a bod arteithio dwy yn well na arteithio tri. Ond serch hynny, mae arteithio un person yn weithred ffiaidd, a ddylid condemnio unrhyw sy'n gwneud hynny. Mae'r un peth yn wir am gaethwasiaeth. Does dim ots o gwbl am y niferoedd wnaeth y YP gaethweisio, mae'r ffaith ei bod nhw wedi caethweisio o gwbl yn destun cywilydd. Fodd bynnag, wrth edrych ar ymddygiad y YP yn fanwl, mae'n anodd cynnal y cred taw'r 'Ymerodraeth Neis' ydoedd; mae'n llawn newynu trwy esgeulusid neu ar bwrpas, lladdfeydd fyddai’n ennill clod rhai fel Radovan Karadzic (yr ymateb i'r Miwtini yn India), o leiaf un hil-laddiad (Tasmania) a gorthrwm gwaedlyd a chreulon (Argyfwng Kenya).

Reply
Simon Chandler

Eos Pengwern: Cytunaf yn llwyr â DDOwen, mae'n rhaid i fi ddweud. Dyw hanes y Deyrnas Gyfunol ddim "... yn weddol lân ..." yn fy marn i. Mae dilyn 'Crimes of Britain' ar Trydar yn addysgiadol iawn yn hynny o beth!

Reply
Tame Frontiersman

Wrth son am Vergangenheitsbewältigung a'r Almaen: tybed a yw ei ysbryd yn cyffwrdd â phawb. Nid yw pawb yn yr Almaen yn cefnogi polisi llywodraeth Frau Merkel i agor eu drysau i ffoaduriaid o'r Dwyrain Canol. Mae pleidiau asgell dde eithafol yn cael lefelau newydd o gefnogaeth ar draws Ewrop. Ni welai pawb yng Ngwlad Groeg ysbryd Vergangenheitsbewältigung ym mholisïau’r Almaen tuag atyn nhw ers 2009. A ydy'r Almaenwyr wedi anghofio effeithiau iawndaliadau arnynt hwythau ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf? Yn rhy aml os dysgir gwersi hanes o gwbl y maen nhw'n brysur fynd yn angof. Wrth son am berthynas rhwng Cymru a Lloegr a Phrydeindod ac Ymerodraeth: mae hynny'n gymhleth dros ben. Hyd yn oed os symleiddir y perthynas hwnnw i un o ormes ac ecsploetio, pa mor ddefnyddiol fydd hynny mewn unrhyw ymgyrch wleidyddol dros annibyniaeth yn y 21ain ganrif? Oni fyddai syniadau positif am Gymru Fydd yn fwy perswadiol i drwch eangach o bobl?

Reply
Simon Chandler

Tame Frontiersman: Diolch am eich sylwadau doethion. Rydw i'n edmygu'r Cymry'n fawr ac yn credu y byddai dyfodol disglair i Gymru annibynnol. Mae hynny'n ddigon positif, gobeithio, ond rydw i'n credu hefyd y gellir dod o hyd i'r allwedd i'r dyfodol dim ond wrth archwilio'r gorffennol. Gormes ac ecsbloetio: dyna ran sylweddol o hanes Cymru, yn anffodus, ond gellir gwneud rhywbeth positif ohoni. Mae'r cywilydd sydd arna i fel Sais oherwydd y gorffennol (ar ôl darllen 'Aros Mae') wedi newid fy mywyd a gwneud i fi ddysgu'r Gymraeg o ddifrif ac ymuno â Phlaid Cymru. Gallai ymdeimlad o ddicter oherwydd y gorffennol newid bywydau digon o Gymry a gwneud iddyn nhw gredu ynddyn nhw eu hunain ac, o ganlyniad i hynny, credu mewn annibyniaeth hefyd efallai. Dyna sut y gwelaf y peth, beth bynnag.

Reply
Robert Kerr

I cannot read or speak Welsh, my native tongue is English and I understand Scots. I used google translate and understood the author's intent. Please do not offer an English translation. May I suggest a podcast in Welsh to assist any learners. There has recently been discussions here in Scotland re national guilt for slavery etc and purported comment by Reinhard Heidrich on subjugation of minorities, "“Deprive the people of their National Consciousness, treat them as a tribe and not a Nation, dilute their National pride, do not teach their history, propagate their language as inferior, imply they have a cultural void, emphasise their customs are primitive and dismiss independence as a barbaric anomaly” This seems to be pertinent but is likely to be compiled from various sources. Google renders this in Welsh as.... "Dileu pobl eu Hysbysrwydd Cenedlaethol, eu trin fel llwyth ac nid Cenedl, gwanhau eu balchder Cenedlaethol, peidiwch â dysgu eu hanes, ysgogi eu hiaith fel israddol, yn awgrymu bod ganddynt ddiwylliant gwag, pwysleisio bod eu harferion yn gyntefig ac yn cael eu diswyddo Annibyniaeth fel anghysondeb barbaraidd " Best wishes

Reply
Simon Chandler

That is extremely pertinent: thank you.

Reply
desdelguinardo

Braf gweld ychydig o safon ar y wefan hon. Diolch am dy erthygl.

Reply
Simon Chandler

Diolch o galon!

Reply
Dafydd ap Gwilym

I am really confused, shocked and angry and can see clearly why so many monoglots fear our very own language when they should be encouraged to embrace it. Confused because: I am from a Welsh family, a Welsh speaking family, I grew up with Welsh and my family accepted non-Welsh speakers into the family with warmth, open arms and showed them kindness, love and shared with them, they therefore learnt Welsh. Duw! it certainly seems others will not find the same warmth or embrace here. You are not normalising Welsh you are making it unobtainable. Either through intent or conservatism we hit the same stumbling block re our langauge where, if you do not speak it you are left out. Can you not see this further divides us (I am talking to those that do not realise this, not the ones that do!)? My question is how do you expect to encourage anyone to learn our language if you are once again going down the road of insular Welsh societies. How on earth are we going to bring our country together after nearly two thousand years if we don't work together and put aside everything and I mean everything that separates us. How can we gain the support for the Independence so many of us demand, demand because it is our right, from all our people if we do not include everybody?! To argue, or ignore a request from someone who does not want any section of our society or nation left out in the cold does not encourage re-learners and will once again push monoglots further away. That is not only further away from the language, but also all Independence matters. It also plays directly into the British government's hands. So, ask yourself, amongst your own who can you really trust? Shocked because: We seem to have the same (and looking at it from every possible view point) aloof and elitest attitude that once again appears to just brush aside questions it does not want to answer and you can carry on, return to your isolated groups and little societies and talk Welsh amongst yoursleves, I have no problem with that. True what many feel, you may not have heard this but it is perceived that everybody that speaks Welsh has a say, that is, apart from the monoglot majority. Angry because: I thought that at the age of 60 I had seen and heard the last of the 'us and them' brigade, those that perpetually cause others to chase their tails, going round and round in ever decreasing circles until they get tired , fed up and give up! When I am home I am home, but not everyone knows me and sometimes they are taken aback because of my accent. This fades into insignificance once we get talking (in either language) and realise we have one mutual goal, a free Wales whose language is Welsh first and foremost. Also once and for all totally separate from everything that is British and the evils that go with it. The course of events that has led us to this current upsurge in 'us and them' started months ago, when the British press started insulting our nation. This was sustained for a while until they then used the BBC to further insult us regarding our language using a determined, English-only speaking Welshman. Naturally there has been outrage. However, before and after this latest event we have had a number of articles throughout Wales and England via social media which once again throws the question of language into the arena and leaves it to its own devices. Just to distract or push people further away! Now you tell me, who works for Independence and who works to once again destabilise anti-British feelings? There are so many monoglot Welsh, monoglot and some bilingual English that are doing more for our cause (which by the way is to save our nation and language from utter obliteration). YesCymru started by an English woman who married a Welshman and is putting her children through Welsh school. Politicans who are first generation Welsh and who are constantly under attack. Why, because they are the biggest threat to British rule, any new generation that has not been brainwashed is freer than some of those still, through ignorance or state intent, held in mental slavery. So, take the time to look at others in the Independence cause, you will find patriotic, passionate and dedicated people whoever they are, wherever they are from and whatever language they speak, that are doing more for Independence by being Inclusive than being exclusive like y'all. My view on Cymreag, my language, the language of my family, ancestors and people is as important to me as it is to you, so some of you say. What you do not know, because you won't converse with the likes of me, is that I would like to see within the shortest time frame logistically possible, every nursery, reception and primary school becoming Welsh speaking. Every comp, sixth form and FE college to gradually change so as not to disrupt anyone who doesn't or cannot speak the language yet. Universities are a slightly more complex question, but they have universities in other non-English speaking countries and we should look at them for guidance maybe (sorry more foreigners!). I believe within a matters of 6 years there would be no question about our language, no more distracting discussions to keep us where we are right now and, let's face it, you are going nowhere. Everyone speaks English (sorry, it is a matter of fact and one you have to get over) therefore no one will be left out if they don't or cannot speak our language people can always translate or speak it. Costs are relative to the current costing of education and may be slightly lower when you have a real goal and not just carrying out the unsustainable policies of the British. Anyway, it always makes one cautious on any social media site where people use made up names, give themselves fanciful titles, post no picture of themsleves and join in the odd discussion, irrespective of what language the discussion is in. Apart from myself there is only one other honest person who openly has his name and photo whereas the rest are intriguingly anonymous? In case you are unaware, perhaps due to your isolationism, there are groups beginning to emerge within Cymru, that are Welsh speaking offering those who are desperate to learn ways by which they may. This is through meetings or social events and I know a few true patriots who have yet to learn that are joining up. This is how we save our nation and our language not by excluding our own people because they are not Welsh speaking. I have to fight English Nats, ex-pats, the British government, do I really have to waste time on you guys? Obviously not! You are keeping our language alive, what I do have a problem with is that while there are many, many patriots on the streets trying to change, albeit slowly, attitudes and misunderstandings which they have been fed to believe by the British, there are those of you that are, whether you realise it or not, working against it. I wonder how many of you are enjoying this bank holiday weekend the English have so kindly allowed you to have? Unlike the rest of us that reject any handouts from the British and continue the fight! Dim gweddill tan Annibyniaeth!

Reply

In reply to Dafydd ap Gwilym

Simon Chandler

Dafydd ap Gwilym: I am dumbfounded by your response and, in particular, by its ferocity. I am particularly confused by your reference to 'us and them'. I am an Englishman, who is learning Welsh out of love and deep respect, and who has written an article in the language: that is all. I would have hoped that, as a Welshman, you would have regarded that as something positive. I certainly cannot understand why you believe that I deserve to be castigated for it.

Reply
Dafydd ap Gwilym

One important addition I would like to make. I do not want everything in English for the sake of it. As some of the article was difficult to translate and the translation does not always understand some of the regional dialects all I meant to say was can we have a copy in English? Everything else I stand by.

Reply
Professional Autism Advice

Mae na hen dwediad -Enillodd Prydain y ryfwel on nid y'r heddwch. Er taw cyfeirio tuag at y ryfel byd cyntaf mae'n berthnesol I Brydain wedi'r ail ryfel byd. Roedd hyd yn oed Churchill yn weld rhan i Bryfdain tu fewn i Ewrop. Wrth adeladu mur rhwng Prydain ac Ewrop, mae yna ofn bod Prydain yn methu datblygu i warae ei ran i rwystro Ewrop rag dysgun i uffern creulon ffascaidd. Nid yw ein genedl ni yn ddi bai. Gyda'r anthem syn tystio bod y Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,-pa fath o feddwl sydd da ni fel Gymry tuag at Ewrop. Well gen i ganu 'tra mor yn bur amddifyn y rhai'

Reply
Professional Autism Advice

May I add that the Welsh Language is fire in the soul. I make no apologies for defending passionately a language that has more life force in it than the other three languages I speak. The welsh language offers a richer life experience. Although I love the English language too, to read Orwell, Cowper Powys , Milton is a delight , but Hedd Wyn strikes at the soul and Caradog Pritchard takes the reader deeper into a mystical experience in a otherwise bleak landscape. It would be a sorry day to lose this powerful and earth bound, mystical language that is Welsh. it would be like the wealth of human mind being culturally lobotomised

Reply
Simon Chandler

Very well put: I entirely agree.

Reply

Leave a reply

Replying to Desdelguinardo Cancel

Os wyt ti'n meddwl bod dim angen i Gymru werthuso a siarad yn blaen am ein rôl yn trefedigaethu ac yn y fasnach gaethweision, mae'n well i ti ddarllen mwy o dy hanes.

Comments are reviewed before they appear.