Opinion
Plaid Cymru must be open for grassroots members to have their say
*English follows below*
Heledd Gwyndaf, ymgeisydd ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Cyfathrebu Plaid Cymru
Wrth roi ei enw ymlaen i fod yn Gadeirydd Plaid Cymru, mae Dewi Evans eisoes wedi gwneud gwahaniaeth.
Mae eisoes wedi gorfodi ei wrthwynebydd i feddwl falle bod angen iddo gael ‘syniad’ - a dyma holl bwynt cyflwyno enwau ar gyfer etholiad.
Nid yn unig ei fod yn cynnig dewis i aelodau, mae'n creu sgwrs, yn cynyddu diddordeb, creadigrwydd ac arloesedd.
[mid-content-banner]
Mae hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw unigolyn yn dod i feddwl bod ganddo/ganddi ‘hawl’ i safle o ddylanwad o fewn ein plaid. Mae'n fraint sy'n rhaid ei ennill.
Ond mae rhai agweddau ar yr ymgyrch hon wedi bod yn salw, ro’n i wedi fy syfrdanu pan gefais fy meirniadu a'm sarhau yn gyhoeddus am feiddio cyflwyno fy enw fel Cyfarwyddydd Cyfathrebu.
Mae'r feirniadaeth honno ohonof yn tynnu sylw at sut mae lleiafrif dylanwadol o fewn Plaid Cymru wedi dod yn anghyfarwydd ag aelodau llawr gwlad ein plaid yn cynnig ein henwau ar gyfer swyddi pwysig. Rhaid i'n plaid fod yn ofod diogel i aelodau llawr gwlad gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd o fewn y blaid. Ac yn bendant ni ddylem gael ein sarhau a'n beirniadu am ddim ond rhoi ein henwau ymlaen.
Dw i’n credu y gallaf i wneud gwahaniaeth, o gael fy ethol yn Gyfarwyddydd Cyfathrebu. Rwy'n gyfarwydd, oherwydd fy ngyrfa mewn rolau cyfathrebu a marchnata mewn amrywiaeth o feysydd - yn reolwraig ac yn ymgynghorydd, â'r angen i greu strategaethau cyfathrebu mewnol ac allanol effeithlon. Mae angen i ni estyn allan yn effeithiol at bob math o bobl a chymunedau a bod yn llawer mwy cynhwysol.
Dau o fy mhrif bwyntiau maniffesto, fel Cyfarwyddydd Cyfathrebu yw:
1.) Rhaid inni ddadlau dros annibyniaeth yn ein holl gyfathrebiadau â'r cyhoedd, gan gynnwys ein trafodaethau yn ymwneud ȃ Brexit. Ei barodrwydd i ddod ȃ’r gair ‘annibyniaeth’ yn ôl I drafodaethau’r Blaid oedd un o’r pethau a enillodd yr ymgyrch arweinyddiaeth i Adam Price. Rhaid i annibyniaeth fod yn rhan ganolog o negeseuon clir Plaid Cymru.
2.) Mae angen gwell cyfathrebu â'n haelodau. Mae angen i ni gyfathrebu'n well ar bob mater, gan gynnwys cyfranogiad ein haelodau ar bob lefel o fewn y blaid. Mae angen i ni gymryd cyngor gan aelodau a manteisio ar y sgiliau a'r arbenigedd yn ein plaid ein hunain.
Mae'n hanfodol ein bod yn fwy effeithiol wrth estyn allan at ein haelodau, mae'n gyfle nad ydym yn manteisio arno ar hyn o bryd ond mae'n hanfodol os ydym am ennill yn 2021. Mae angen ail gysylltu ac ymgysylltu gyda trwch yr aelodaeth gyffredin.
Mae angen hwylusydd i lais yr aelodau llawr gwlad i'n cynrychioli mewn modd ystyrlon. Rhaid i aelodau llawr gwlad deimlo perchnogaeth dros y Blaid unwaith eto. Mi fyddai cydweithio gyda'r Cadeirydd yn allweddol i hyn.
Rwy’n gefnogol iawn i Dewi Evans wrth iddo sefyll i fod yn Gadeirydd y blaid. Mae ei faniffesto yn un andros o dda, fel y mae ei record yn ymwneud yn y gorffennol â Plaid Cymru, yn enwedig ei rôl fel cynghorydd yn hen Orllewin Morgannwg ac yn nes ymlaen yn Castell-nedd Port Talbot.
Gall edrych yn ôl ar yrfa oes fel pediatregydd ymgynghorol. Er nad yw bellach yn gweithio mewn ysbyty clinigol, gofynnir am ei farn yn rheolaidd mewn achosion heriol a sensitif. Mae ei faniffesto, fel Cadeirydd yn cynnwys:
- Bod yn Gadeirydd i bawb yn y Blaid
- Cadw mewn cyswllt rheolaidd gyda’n aelodaeth ar faterion amserol
- Tyfu aelodaeth i 10,000 erbyn 2021
- Amnest i aelodau sydd wedi cael eu diarddel
- Sicrhau llwybrau gyrfaol effeithiol i’n holl aelodau staff
- Agor swyddfa wleidyddol yng Ngogledd Cymru
Mae'n hanfodol bod pobl yn ymrwymo i swyddi pwysig o fewn Plaid Cymru. Mae'r dewis sydd gennym ar ein papurau balot eleni yn gam gwych ymlaen.
Os ydych chi'n cytuno â’m gweledigaeth dwi’n gofyn i chi fy nghefnogi yn y gynhadledd yn Abertawe yr Hydref hwn a phleidleisio i mi fel Cyfarwyddydd Cyfathrebu.
Mi fydd y blychau pleidleisio ar agor yn y gynhadledd yn Theatr y Grand yn Abertawe, ar y dydd Gwener y 4ydd o Hydref rhwng 11.40 y bore a 5 y prynhawn, ac ar y dydd Sadwrn y 5ed o Hydref rhwng 8.30 y bore a 2.20 y prynhawn.
Gwinllan a roddwyd i'n gofal.
Heledd Gwyndaf, candidate for the position of Plaid Cymru Director of Communications
In putting his name forward for the role of Chair of Plaid Cymru, Dewi Evans has already made a difference.
He has already forced his opponent to think he should maybe come up with ‘an idea’. And this is the whole point of putting names forward for election.
Not only does it give membership choice, it also creates conversation, increases interest, creativity and innovation.
It also ensures that no individual has a ‘right’ to a position of influence within our party. It is a privilege to be earned.
But some aspects of this campaign have been ugly. I was stunned with disbelief when I was criticised and indeed insulted for merely putting my name forward as Director of Communications.
This criticism of me highlights how an influential minority within Plaid Cymru has become unfamiliar with grassroots members of our party putting our names forward for important positions. Our party must be a safe space for grassroots members to participate in the democratic process within the party. And we should definitely not be slapped down for simply putting our names forward.
I am familiar, due to my career in communications and marketing roles, as manager and consultant, within a variety of fields, with the need to create efficient internal and external communication strategies. We need to effectively reach out to all sorts of peoples and communities and be much more inclusive.
Two of my main manifesto commitments, as Director of Communications are:
1.) We must make the case for independence in all of our communications with the public, including conversations around Brexit. The way forward for us in Cymru is independence. The fact that Adam Price brought the word ‘independence’ back to our party was a central part of his successful leadership campaign and it must be a central part of Plaid Cymru’s clear messaging as we move forward.
2.) We need better communication with our members. We need to communicate better on all issues, including the involvement of our members on all levels within the party. We also need to take membership advice and take advantage of the skill base and expertise within our own party.
It is essential that we are more effective in reaching out to our members, it is an opportunity we are overlooking but is vital if we are to win in 2021. We must reconnect and engage with grassroots members. We need a facilitator for the voice of grassroots members to represent us in a meaningful way. The grassroots members must once again feel ownership of the Party. Key to this would be collaboration with the Chair.
I am very supportive of Dewi Evans standing for Chair of the party. His manifesto looks pretty darn good to me, as does his past involvement with Plaid Cymru, especially his role as a councillor in the old West Glamorgan and later on in Neath Port Talbot.
He can look back on a lifetime’s career as a consultant paediatrician. Despite no longer working in clinical practice his opinion is regularly sought in challenging and sensitive cases. His manifesto as Chair includes:
- Be a unifying Chair
- Keep members involved with surveys and polling on topical issues
- Grow membership to 10,000 by 2021
- An amnesty for expelled members
- Ensure effective career development pathways for all Plaid Cymru staff
- Open a political office in North Wales
It is crucial that us, the members, commit ourselves to important positions within Plaid Cymru. This year’s line up is a great step forward.
If you agree with my vision, I would be very grateful for your support in the conference in Abertawe this autumn and for your vote for me as Director of Communications.
The voting booths will be open in the conference at the Grand Theatre on Friday 4 October from 11.40am until 5pm, and on Saturday 5 October from 8.30am until 2.20pm.
Gwinllan a roddwyd i’n gofal.
Support our Nation today
For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.
Get more trusted Welsh news
Choose Nation.Cymru as a preferred source in Google News to see more of our journalism.
