Opinion
Bydd y Cymro yn dychwelyd yn fuan

Mae’n bleser gallu cyhoeddi bod cais Cyfeillion y Cymro am arian cyhoeddus ar gyfer ail-lansio Y Cymro wedi bod yn lwyddiant.
Bydd datganiad llawn i ddilyn ar y cyd gyda Cyngor Llyfrau Cymru.
Mae’n braf cael blogio am hyn fan hyn gan fod y gwefan wedi bod yn dipyn o ysbrydoliaeth i Gyfeillion Y Cymro; grwp cymunedol o bobl yn dod at ei gilydd er mwyn un nod.
Does dim modd i ail-adrodd yr holl hanes fan hyn, ond yn y bôn roedd fy ngwaith ar ran Cynghrair Cymunedau Cymraeg ar ymgyrch #CaruS4C yn ddigon amlwg wedi arwain at geisio achub Y Cymro’ ein hunig bapur newydd Cymraeg.
Meddai Ceridwen Lloyd-Morgan, aelod o bwyllgor Cynghrair Cymunedau Cymraeg:
“Newyddion ardderchog yn wir, i godi calon mewn cyfnod cythryblus!”
Sgiliau
Roedd cydlynu Cyfeillion Y Cymro yn un o brosiectau Un Wlad, Dwy Iaith, sydd wedi ei ariannu gan Arian i Bawb.
Nod Un Wlad, Dwy Iaith yw helpu grwpiau cymunedol Cymreig i weithredu eu prosiectau gwirfoddol a hunan-gymorth.
A drwy hynny, gynyddu sgiliau a chreadigrwydd ein gwlad drwy gefnogi gweithgareddau sy’n helpu ennyn hunan-hyder.
Bwriad y prosiect oedd integreiddio cymunedau wrth uno pobl o wahanol oed, profiadau neu gefndir a diwylliant a hyrwyddo dulliau newydd o weithio i bobl ifanc.
Roedd ein hymweliad diweddar i Goleg Merthyr wedi llwyddo i wneud hyn wrth i’r cynhyrchydd teledu Iwan England arwain sesiwn ar fanteision y Gymraeg yn y gweithle.
Fe gymrodd Iwan ei hun ysbrydoliaeth o blog Bethan Phillips ar y gwefan yma - nation building yn wir!
Gobeithiwn rannu nifer o gyfweliadau gyda’r criw ifanc cyn hir, gyda sêr Cymreig y dyfodol yn esbonio beth ddysgon nhw am fanteision dwyieithrwydd trwy’r gweithdy.
Trwy annog mwy o bobl i gymryd rhan weithredol mewn grwpiau a phrosiectau lleol gallwn estyn mynediad a chyfranogiad, yn arbennig ble mae yna’r cyfle i gael pobl ifanc i weithio gyda’u grwpiau cymunedol, ac yn fwyaf arbennig ble bod y bobl ifanc yn meddu ar sgiliau ieithyddol sydd yn ddwyieithog.
Support our Nation today
For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.