Thursday, 16th July 2026 Cardiff 26° · Clear sky
NationCymru A news service by the people of Wales, for the people of Wales.

News

Digwyddiadau Nation.Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

By NationCymru
Y Llannerch Gudd ar faes yr Eisteddfod 2018

Fe fydd sgyrsiau am annibyniaeth, y cyfryngau yng Nghymru, a ffuglen ffantasi a gwyddonias ymysg arlwy Nation.Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd y sgyrsiau yn digwydd yn y Llannerch Gudd am 2pm ar ddyddiau Sadwrn, 4 Awst, Mawrth, 7 Awst a Gwener, 10 Awst.

"Dyma'r tro cyntaf i Nation.Cymru gynnal digwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a gobeithio y bydd yn fodd o gyrraedd cynulleidfa newydd," meddai golygydd Nation.Cymru, Ifan Morgan Jones.

"Mae croeso i bawb i'r digwyddiadau hyn ac rydym yn gobeithio cynnwys cynifer o leisiau a phosib, gan roi llwyfan i'r drafodaeth frwd sydd wedi mynd rhagddo ar y safle dros y flwyddyn ddiwethaf."

Democrataidd

Ar ddydd Sadwrn fe fydd panel yn trafod ‘Y Diffyg Democrataidd yng Nghymru: Sut mae cynnal diddordeb y cyhoedd?'

Ymysg y pynciau trafod fydd sut y gall newyddiadurwyr, pleidiau gwleidyddol, y Cynulliad a Llywodraeth Cymru wneud rhagor i ddod a newyddion am wleidyddiaeth Cymru i sylw'r genedl.

Yn cymryd rhan yn y drafodaeth bydd:

  • Aled ap Dafydd, gohebydd gwleidyddol gyda BBC Cymru
  • Mared Ifan gohebydd Golwg a Golwg360 yn y Senedd
  • Fflur Arwel o dîm cyfathrebu Plaid Cymru
  • Gareth Hughes, y newyddiadurwr gwleidyddol ffrilans profiadol

Fe fydd Ifan Morgan Jones, golygydd Nation.Cymru, yn holi'r cwestiynau, a bydd cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau a chyfrannu at y sgwrs hefyd.

Gwyddonias

Ar y dydd Mawrth fe fydd sgwrs am lenyddiaeth ffantasi a gwyddonias yn y Gymraeg, gyda’r awduron Elidir Jones, Meilyr Sion, Rhiannon Williams ac Ifan Morgan Jones - pob un ohonynt wedi ac/neu yn ysgrifennu nofel ffantasi neu wyddonias.

Fe fyddant yn trafod pam fod llenyddiaeth ffantasi yn tueddu i gael ei ystyried yn eilradd yn y Gymraeg, pam bod braidd dim llenyddiaeth gwyddonias o gwbl, a hefyd a oes rhaid ysgrifennu am Gymru wrth weithio o fewn o genres rhain?

Annibyniaeth

Ddydd Gwener bydd cyfle i drafod ‘Annibyniaeth: Y Ffordd Ymlaen’, pwnc trafod sydd yn denu sylw cynyddol yn sgil Brexit, twf Yes Cymru, a'r sgarmesoedd arweinyddol ymysg y prif bleidiau yng Nghymru.

Yn cyfrannu at y sgwrs fe fydd:

  • Dr Dai Lloyd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru
  • Catrin Dafydd, awdur nofel Gwales sy’n trafod annibyniaeth
  • Iestyn ap Rhobert, cadeirydd Yes Cymru

Fe fydd golygydd Nation.Cymru, Ifan Morgan Jones, yn eu holi. Unwaith eto fe fydd cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau a chyfrannu at y sgwrs hefyd.

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

Get more trusted Welsh news

Choose Nation.Cymru as a preferred source in Google News to see more of our journalism.

Choose Nation.Cymru as a preferred source in Google News

0 comments

Leave a comment

Comments are reviewed before they appear.